Cefnogwyd gan


Mae'r safle Cymraeg yn cael ei adfer ar y foment, bydd rhai adrannu ddim ar gael yn Gymraeg yn achlysurol. Ymddiheurwn am unrhyw angyfleustra,
Mae Canolfan Cymunedol y Cyreniaid yn brosiect wedi ei wobrwyo am gynnig cefnogaeth iechyd, bwyd dan gymhorthdal, cyngor a hyfforddiant i bobl di-freintiedig yn ystod y dydd ac yn adnodd i'r gymuned yn y nos.
Wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Chronfa Loteri Treftadaeth, cynigir gofal iechyd sylfaenol mewn partneriaeth rhwng y Cyreniaid a Bwrdd Iechyd Abertawe. Mae Nyrs arbenigol ar gael bob bore gyda chyswllt a Meddygfa leol.
Mae bwyd iach rhad ar gael bob dydd o gaffe'r “Owl and Parrot", ac ystod eang o weithgareddau a hyfforddiant. Mae'r cwmni bwyd cydweithredol y “Nine Carrots” yn gweithio o'r ganolfan.
Mae'r ganolfan eisoes wedi sefydlu ei hun fel adnodd allweddol yn Abertawe, gyda'i bwyslais ar fyw iach a ymglymiad â'r gymuned
Bydd budd iechyd tymor hir i'r grwpiau o fewn ein cymuned nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau prif-ffrwd yn ddwys.
D/O Cyrenians Cymru,
124 Heol Walter
Abertawe
SA1 5RG
Ymwelwch â safle
A safleoedd prosiectau eraill y cyreniaid
Rydym wedi adfer ac ail adeiladu Egwlys St Matthew yn y Stryd Uchaf gyda chefnogaeth Europeaidd a CRASH, gyda'r bwriad o greu canlfan fywiog yng nghalon Abertawe.
Am ganrifoedd safodd Eglwys St Iaon y Bedyddiwr ar y safle hwn wedi ei sefyldu gan y “Knights Hospitallers” yn yr 12eg ganrif. Adeiladwyd yr eglwys bresennol, wedi ei gysegru i St Mathew, yn 1880 ac mae'n adeilad wedi ei restri yn radd 2.
Addaswyd yr adeilad yn ddau ran. Yr Eglwys ar flaen yr adeilad a chanolfan ar ddau lawr. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn eiddgar i ddefnyddio's adeilad ar gyfer budd cymdeithas gweddus i hanes a thraddodiad y safle.
© Cyrenianiaid 2007
Canolfan Cymunedol y Cyreniaid,
C/O Cyrenianiaid Cymru,
124 Heol Walter,
Abertawe,
SA1 5RG
Ffôn - 01792 470127 Ebost - admin.ccc@cyrenians.co.uk